
Amdano Fi
Fy Nhaith Gerddorol
Cefais fy ngeni tu allan o Gaerdydd mewn tref o'r enw, Pen-y-bont ar Ogwr. Pan oeddwn i'n un, symudodd fy nheulu i Gaerloyw. Mae fy mam i yn athrawes gerdd, felly oeddwyn ni wedi tyfu lan o amgylch cerddoriaeth. Oedd hi wedi dysgu piano i mi, ac roeddwn ni o hyn yn canu o gwmpas y tÅ·. Oeddwyn ni wedi tyfu lan yn mynd i’r capel felly pan oeddwn yn un ar ddeg, ymunais i â'r band pobl ifanc a’r band mawr. Roedd bod yn rhan o'r band wedi caniatau mi i ddatblygu fy sgiliau chwarae piano a chanu - dysgais i sut i ganu harmonïau a sut i chwarae chorau. Pan oeddwn yn 15 oed, es i i'r coleg i astudio Celfyddydau Perfformio, ar ol flwyddyn es i astudio Gerddoriaeth yng Ngholeg Caerloyw, sef beth fi’n neud ar hyn o bryd.
​
Dros wyliau'r haf fe wnes i ailddarganfod angerdd am ofalu am blant ifanc. Daeth hyn o weithio mewn canolfan ddringo yng Nghaerloyw lle rwy'n arwain gweithgareddau plant a thrwy fynd i grŵp home-ed, ble oeddwyn ni wedi chwarae gemau am awr a hanner efo’r plant bach.
​
Yna, pan ddaeth i yn ôl i'r coleg yn mis Medi, cefais i diddordeb fawr yn y manteision o dysgu
cerddoriaeth i blant o oedran ifanc, ac achos fy mod y gallu siarad Cymraeg, roeddwn i'n meddwl y byddai hyn beth gwych i gynnwys hefyd, sef ble oedd y syniad 'Canu Caru' wedi dod o. Mae Caru Canu amdano dysgu Cymraeg i blant ifanc, drwy gerddoriaeth.
​
Mae 'Caru Canu' wedi fy ngalluogi i ddod â holl sgiliau a hangerdd at ei gilydd, i gobeithio ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg.