
Jac Y Do
Mae'r fideo 'Jac Y Do' yn ymwneud â chyflwyno'r Gymraeg i blant bach trwy gerddoriaeth. Roeddwn i eisiau gwneud y fideo hwn yn hwyl ac yn rhyngweithiol, felly rwyf wedi ychwanegu rhai actionau Makaton i'r plant i dilyn efo.
Gobeithio y byddwch chi'n mwynhau'r fideo. Os oeddwch chi wedi joio, fyddai'n neis i clywed gennych chi, gadewch i mi wybod beth oeddech chi'n hoffi/ddim yn hoffi ac os hoffech chi weld mwy.
Ffx
Ymatebion
Jack Williams - Tiwtor Cerddoriaeth yn Coleg Caerloyw
FFION!!!! Mae hwn MOOOOOOOR dda.
Rwy'n caru'r isdeitlau yn y Gymraeg a'r Saesneg ac mae'r ffordd rydych chi'n newid rhwng y Gymraeg a'r Saesneg yn perffaithly. Mae'r lluniau hefyd yn helpu plant ifanc gyda cysylltiad o'r gân. Yr unig welliant yw ansawdd y fideo a'r sain.
Mae'n wych! Byddwn i'n dangos hynny i fy merch fach i.
Sioned Stephens - Mudiad Meithrin
Mae’r fideo gret. Ti’n siarad yn uchel ac yn glir, a mae’n ffordd hyfryd o ddysgu Cymraeg wrth wneud canu caneuon traddodiadol a hefyd arwyddo. Actions yw ystumiau neu symudiadau.
Catrin Thomas - Athro Ysgol Gynradd
Dyma adnodd hynod o werthfawr ar gyfer plant bach a'u rhieni sy'n dysgu siarad Cymraeg. Mae Ffion yn cyflwyno'r fideo mewn fordd hwylus ac hawdd i'w ddeall ac mae'r defnydd o iaith makaton yn sicrhau ei fod yn rhyngweithiol. Rydw i'n hyderus bydd y fideo arbennig yma o gymorth mawr i blant led-led y byd sydd am ddysgu Cymraeg. Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at y bennod nesaf yn barod!!