Bywgraffiad
Ffion Diaz

Mae Ffion yn gerddor sydd wedi'i leoli yng Nghaerloyw. Ar hyn o bryd mae hi'n astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Caerloyw. Mae ganddi lais 'gwerinol' hyfryd iawn, a dyna pam mai ei hoff genre i ganu yw gwerin. Mae gan Ffion lais pwerus, disglair a hyderus sy'n ei galluogi i ganu llawer o wahanol arddulliau o gerddoriaeth yn gyfforddus. Mae hyn yn cynnwys unrhyw beth o Soul i Easy Listening i Theatr Gerddorol - hyd yn oed i gerddoriaeth Glasurol. Pan fydd Ffion yn canu, mae hi bob amser yn canu'n glir a gydag emosiwn. Mae Ffion nid yn unig wrth ei bodd yn canu, ond mae hi hefyd gallu chwarae'r piano.
​
Wrth dyfu i fyny mynychodd Ffion yr capel lle dysgodd sut i ganu harmonïau a sut i chwarae chords. Mae hi nawr yn un o'r Arweinwyr Addoli yn Capel Elim yn Caerloyw. Ar hyn o bryd mae Ffion yn gweithio tuag at ei Theatr Gerddorol Gradd 6 ABRSM a'i Piano Gradd 5 ABRSM, ac mae hyn wedi ei harfogi i dyfu yn ei sgiliau cerddorol. Cwblhaodd Ffion ei Theori Cerddoriaeth Gradd 5 yn ddiweddar hefyd. Dysgodd hyn y sgiliau iddi ysgrifennu a threfnu cerddoriaeth.
​
Mae Ffion wedi bod yn canu mewn corau o oedran ifanc - roedd hi'n rhan o Gôr bobl ifanc Vocality a’r Chôr bobl ifanc Cambrats. Ar hyn o bryd mae’n dal rhan o Gôr bobl ifanc Sir Gaerloyw (GYC). Mae hyn wedi ei galluogi hi i ganu ochr yr anhygoel Vonda Shepard (Canwr/Awdur Ac Actores Americanaidd) ac Andy Coxon actor o'r West End. Mae hi hefyd wedi bod ar Radio BBC Gloucestershire yn canu gyda GYC. Mae hi wedi canu yng ngwyl Music for Youth (MFY) yn Neuadd Symffoni Birmingham ac wedi canu mewn opera 'The Burning Bush', sy'n cynnwys y gantores opera bas-bariton Cymreig-Gwyddelig, Paul Carey Jones fel rhan o wyl y Tri Chôr yng Nghaerloyw. Roedd hi hefyd yn un o gantorion y gynulleidfa ar gyfer yr artist – Homegrown Worship.
​
Mae gan Ffion lawer o ddoniau; un ohono nhw yw mae hi gallu siarad Cymraeg ac mae hi wedi ymuno yn yr Eisteddfod gyda'i theulu yn canu 'Dim Ofn' gan Red Rocks Worship. Mae hi wrth ei bodd yn ymgorffori ei sgiliau gwahanol i wneud rhywbeth newydd. Er enghraifft, mae hi wedi gwneud fideo addysgol Cymraeg; mae hi hefyd wedi ysgrifennu ei fersiwn ei hun o'r gân Draddodiadol Gymraeg 'Ar Lan Y Môr' lle cafodd yr adborth hwn – “Mae dy llais di yn hyderus ac yn glir, mae gennych ynganiad a thechneg wych. Hefyd, mae dy gyflwyno nodiadau yn gryf ac yn gywir,oedd e ti ddim wedi mynd mas o llain ac mae gennych naws gyfoethog i'ch llais. Mae eich sgiliau cyfeilio ar y piano hefyd yn gryf a ti gallu canu ac chwaraer y piano ar yr un pryd. Sydd yn gwych ac yn broffesiynol iawn.”
​
Ar y cyfan, mae Ffion wrth ei bodd yn ymgorffori cerddoriaeth a Chymraeg - mae hi'n gobeithio y bydd hi'n ysbrydoli pobl i ddysgu Cymraeg mewn ffordd hwyl.